Bontlwyd blanc
pont Archifau Wythnos Diwethaf Actorion cefndir Hafan
Yr Ysgol – Hedydd a’r Prif-athro (Iwan Harris) Yn Ol

Ysgol gynradd yn y pentre. Irfon Williams yw cadeirydd y pwyllgor Rhieni ac Athrawon / Llywodraethwyr? Bu Helen Shipman yn ymyrryd tipyn pan oedd ei phlant hi yn yr ysgol. Mae Janet a Geraint Parry, Pantypistyll yn gefnogol iawn i weithgareddau’r ysgol gan fod eu merch fach Gwenno yn ddisgybl yna. Siwsan Roberts yw cogyddes yr ysgol.
Mae Iwan Harris wedi bod yn brif-athro yno ers tynnu at 5 mlynedd nawr. Mae’n rhenti Werndeg, ty Arwyn Thorpe, ble bu yn byw fel lodjer cyn i Arwyn symud i fyw at Ceri yn Ael-y-bryn. Gwr di-briod yn ei 40au cynnar ydyw, sy’ddim yn enedigol o’r ardal. Does ganddo ddim ffrindie penodol yn y pentre ond tuedda ddod mlaen gyda phawb. Mae’n gefnogol iawn i’r staff a hefyd i weithgareddau’r pentre.

Mae Hedydd Bowen yn athrawes gyd-wybodol iawn, yn gefnogol i fudiad yr Urdd yn yr ysgol ac yn arbenigo mewn canu a cherddoriaeth. Merch yn ei 30au cynnar ydyw , ac yn gyn-gariad i Arwyn cyn iddo sefydlu perthynas gyda Ceri. Teimla Hedydd yn ddig iddo o hyd. Dyw hithe ddim yn enedigol o’r ardal. Mae nifer o’i ffrindiau hi yn byw yng Nghaerdydd, ble mae’n tueddu mynd am benwythnosau pob hyn a hyn. Mae’n hoff iawn o gymdeithasu, cymrodd tipyn o ddiddordeb yn syniad Rhian o sefydlu côr yn y pentre nes i’r cyfan mynd ar chwal oherwydd camddealltwriaethau rhwng Rhian, Ernest, Albert a hithe a bu cwmpo mâs eitha ffyrnig am sbel. Yn ddiweddar cymrya ddiddordeb yng nghweithgareddau’r C.Ff.I. hefyd ac wedi cyd-weithio gyda Janet, Pantypistyll ar gyfer rhai o’r cystadleuthau ac hefyd ar gyfer ambell i weithgaredd yn yr ysgol.

 
Darllediad diweddar Yr Actorion  

Mwy am :-

 
post
wal
tractor
llaeth

Tynici.com
©2004