Mae Winston ac Elsie Richards wedi ymddeol o’r Gelli, ac erbyn
hyn wedi gwneud eu cartref yn Yr Hafan, sef byngalo yng nghanol pentre’ Bontlwyd.
Ni fu’r cyfnod o symud o’r Gelli yn un esmwyth i Winston,
gan ei fod wedi ei eni a’i fagu yn y Gelli ac heb erioed fyw
mewn unrhyw fan arall. Wedi cynefino a byw yn yr Hafan, mae Winston
yn cadw llygad barcud ar Elfyn yn y Gelli, yn ogystal â gwneud
ei orau i roi ei stamp ar fywyd cymdeithasol y pentre’, yn enwedig
yn y Capel, ond er cystal ei fwriadau, nid yw yn un o’r rhai
gorau i drin a thrafod pobol, ac mae Elsie yn gorfod gweithio’n
galed i’w gadw o dan reolaeth.
Yn ystod y cyfnod wedi i Elfyn ddod adref i’r Gelli, ni fu iechyd
Elsie cystal ag y dymunai fod – ‘roedd yn ffeindio’r
ty yn y Gelli yn ormod o faich iddi hi, gan ei fod yn fawr ac yn hen
ffasiwn. Cafodd hi ac Elfyn dipyn o waith i ddarbwyllo Winston i symud
o’i hen gartref, ond pan ddaeth Yr Hafan ar werth yn y pentre’,
cafwyd perswâd ar Winston i roi cynnig amdano. Mae Elsie yn
hapus iawn yn ei chartre’ newydd, ond mae’n cadw llygad
ar Elfyn, ac yn gwneud yn siwr ei fod yn cael digon o fwyd a gofal
yn y Gelli.
|
|