Bontlwyd blanc
pont Archifau Wythnos Diwethaf Actorion cefndir Hafan
Y Railway Yn Ol
Tafarn y pentre, a chanolfan cymdeithasol yn y gorffennol. Yma roedd Meriel, mam Llyr a chariad Arwyn Thorpe ar y pryd, yn gweithio. Caewyd y dafarn tua 5 mlynedd yn ol, ac ar ol bod yn wag am sbel, ffurfiwyd pwyllgor i brynu ac i redeg y lle, o dan arweinyddiaeth Arwyn. Maent wedi ail-wneud rhyw ychydig o'r lle, mae'r Railway wedi ail-agor ei drysau ar ddiwrnodau penodol o'r wythnos. Dyw pethe ddim wedi bod yn rhwydd ers ail-agor y Railway, ac mae nifer o denantiaid a thafarnwyr dros dro wedi mynd a dod. Sefydlwyd rota o aelodau'r pwyllgor ond roedd hyn yn achosi trafferthion wrth i rai aelodau peidio â thynnu eu pwysau, rhywrai fel Irfon Williams er enghraifft. Achosodd hyn dipyn o gwmpo mas rhwng Irfon a Jac Roberts, aelod arall o’r pwyllgor. Er hynny, Irfon fu'n benna gyfrifol am ofyn i Rhian Brynglas i helpu mas tu ol i'r bar. Mae Rhian wedi gwneud yn fawr o'i chyfle, ac wedi trefnu nifer o ddigwyddiadau i dynnu pobl mewn, ac mae rhain wedi bod yn llwyddiannus iawn. D’oes dim bwyd yn cael ei goginio yna, ond mae Rhian wedi dechre darparu brechdanau, pies, pasties ac ati amser cinio. Mae'r pwyllgor rheoli yn cymryd Rhian yn ganiataol erbyn hyn, ac yn dibynnu'n llwyr arni hi ynghylch â rhedeg y lle o ddydd i ddydd, a hynny am gyflog bach.  
Darllediad diweddar Yr Actorion  

Mwy am :-

 
post
wal
tractor
llaeth

Tynici.com
©2004