Bontlwyd blanc
pont Archifau Wythnos Diwethaf Actorion cefndir Hafan
Y Gelli Yn Ol
Mae’r Gelli yn fferm laeth, tua milltir o bentre Bontlwyd. Winston ac Elsie Richards oedd yn berchen, ac yn ffermio’r lle hyd y flwyddyn 2003 pan gymerwyd y lle drosodd gan Elfyn, eu mab di-briod, a benderfynodd ddod yn ôl i ffermio’r Gelli (ar y cyd gyda’i dad).Roedd wedi treulio cyfnod yn y coleg yn ennill ei râdd, a chyfnod pellach yn gweithio yn Milton Keynes. Ni fu’r broses o drosglwyddo’r fusnes yn rhwydd gan fod Elfyn yn awyddus iawn i wneud newidiadau yn y dull o redeg y fferm, a’i dad yn mynnu glynu wrth yr hen ddull oedd wedi bod yn ddigon llwyddiannus yn ei gyfnod ef, ond nad oedd wrth fodd Elfyn. Mae’r fferm erbyn hyn yn cael ei ffermio’n organig, ac mae Elfyn yn brysur yn gwneud newidiadau i’r adeiladau, ac yn cynyddu maint y fuches, ac mae ganddo gynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol
 
Darllediad diweddar Yr Actorion  

Mwy am :-

 
post
wal
tractor
llaeth

Tynici.com
©2004