| Gwr tua 66 mlwydd
oed yw Wil ac ef yw perchennog garej Bontlwyd. Mae Wil wedi penderfynu
rhoi'r gorau i'w fusnes, ond er iddo werthu'r ty i deulu o Loegr,
mae'r garej yn dal ar ei ddwylo. Bachan gofidus, yn ffaelu gweld 'mlaen,
ond eto'n teimlo fod cyfrifoldeb arno i beidio gollwng trigolion y
pentref lawr wrth gau'r fusnes gan nad oes unrhyw pwmp petrol arall
yn agosach na Trefelin. Mae’n falch iawn derbyn tipyn o help
gan Rhian ar gyfer ei gyfrifiaduron, gwaith papur ac ati. Cyfloga
grwt i edrych ar ôl y pwmpe petrol dros dro tra bod e dal yn
ceisio gwerthu’r lle. Mae’n gwsmer selog yn y Railway
amser cinio, ble mae’n dweud ei ddweud wrth Rhian dros pei neu
frechdan. Teimla’n ddig iawn tuag at Irfon Williams am drio
achub mantais ar ei sefyllfa wrth gynnig pris isel iawn am y fusnes.
|
|