Bontlwyd blanc
pont Archifau Wythnos Diwethaf Actorion cefndir Hafan
Stifyn Thorpe: Yn Ol
Entrepreneaur tua 60 oed ydyw Stifyn. Mae’n wr i Margaret a thad i Arwyn, Elin, Danny a Dylan (Danny a’i deulu yn byw yn Awstralia, Dylan ac Elin yn byw a gweithio oddi-cartre). Un o weithwyr y Cyngor (bois yr hewl) ydoedd cyn sefydlu busnes ei hun – y Gerddi, tua 7-8 mlynedd nôl. Cafodd ei siomi gan Tom Phillips, pan ballodd Tom werthu darn o dir delfrydol iddo ar gyfer sefydlu’r gerddi, ac mae dal tipyn o ddrwg-deimlad rhyngddo ef a Stifyn.Ar ôl blynydde o waith caled yn addysgu ei hunan am yr holl agweddau ac anghenion busnes, gyda help Arwyn a sefydliadau perthnasol, mae'r gerddi wedi eu sefydlu ac yn llwyddiannus iawn. Mae Stifyn yn gwerthu tipyn o lysiau a pher-lysiau yn siop y pentre ac yn dipyn o ffrindie gyda Keith Shipman erbyn hyn. Mae e hefyd wedi helpu’r ysgol gynradd gyda sawl prosiect addysgol e.e.gerddi’r plant. Gwr diymhongar, ond yn graff ac yn saff ei farn ydyw Mae e'n gefn i'w wraig Margaret, yn gefnogol i'w blant ac yn aelod gwerthfawr o'i gymuned.

 
Darllediad diweddar Yr Actorion  

Mwy am :-

 
post
wal
tractor
llaeth

Tynici.com
©2004