Bontlwyd blanc
pont Archifau Wythnos Diwethaf Actorion cefndir Hafan
Pistyll-gwyn: Yn Ol

Byngalo ar gyrion y pentre ydyw ac mae’n gartre i Tom a Martha Phillips, pâr tua 70 oed, ers iddynt ymddeol o ffermio Pantypistyll. Rhieni Ceri ydyw Tom a Martha
Mae Tom yn gyn Gynghorydd Sir a Bro, aelod o fwrdd Y Cop, cyn llywodraethwr yr ysgol gynradd, ac wedi bod yn berson blaenllaw a gweithgar yn y pentre. Mae’n arweinydd naturiol ac yn barchus gan y pentrefwyr. Defnyddia rhan o dir Pantypistyll ar gyfer cadw ychydig o ddefaid o hyd. Mae e hefyd yn flaenor ac ysgrifenydd Capel Tabor, swydd sy’n achosi tipyn o ben tost iddo oherwydd y rheolau newydd iechyd a diogelwch a hefyd helynt y Ty-Capel. Mae’r Ty-Capel yn wâg ar hyn o bryd ac mae’r capel yn y sefyllfa o orfod dewis naill ai ei werthu neu gosod y ty ar rent. Mae’r sefyllfa yma wedi achosi tipyn o gwmpo-mâs rhwng yr aelodau – yn enwedig y menwod. Mae Tom yn gallu fod yn bwyllog ac yn barod iawn gyda’i gyngor, yn enwedig gyda Carwyn Griffiths, cyn was iddynt yn Pantypistyll. Mae e hefyd yn gallu fod yn benstiff ac yn ddiamynedd – nid yw’r berthynas rhyngddo fe a Geraint Parry yn un dda iawn. Ceri, yr unig plentyn yw canwyll ei lygad a thuedda i fod yn or-ofalus ohoni. Mae’n feirniadol iawn o bartneriaid Ceri – Brei Edwards, ei diweddar wr, ac Arwyn Thorpe, ei phartner ar hyn o bryd.

Mae Martha hefyd yn barchus iawn yn y pentre. Cymeriad hoffus, bron byth yn feirniadol, sensitif iawn am deimladau pobol eraill ac yn barod bob amser i helpu unrhyw un. Hi yw cadeirydd cangen Sefydliad y Merched y pentre. Gwna dipyn o waith gwirfoddol e.e. y Cynllun Cyfeillgarwch, ble mae hi’n ymweld â phobol sydd yn dioddef o iselder/salwch meddyliol. Bu Martha’n ymweld â Helen Shipman am dipyn o amser fel rhan o’r cynllun yma. Martha a’i ffrind, Nansi Jones, Brynglas, oedd yn gyfrifol am gael help i Tracey o dan y cynllun Cymorth Cartref (Homestart). Mae Martha ac Elsie Richards hefyd yn ffrindie mawr. Maent yn aelodau selog o gapel Tabor, gyda’r cyfrifoldeb am lanhau’r capel yn cwmpo mwy-mwy ar eu hysgwyddau nhw. Maent wedi lleisio’u barn yn glir yn erbyn gwerthu’r Ty-Capel. Mae’n gefnogol iawn i Ceri ac i’r berthynas gydag Arwyn, ac yn edrych ymlaen at bod yn famgu yn y dyfodol agos. Mae hi’n amal yn gorfod dweud y drefn wrth Tom ynglyn â’i agwedd at rhai pobol – yn enwedig Arwyn.

 
Darllediad diweddar Yr Actorion  

Mwy am :-

 
post
wal
tractor
llaeth

Tynici.com
©2004