Fferm lewyrchus tua 120 cyfer ar gyrion pentre’ Bontlwyd sy’n
eiddo i Tom a Martha Phillips. Wedi iddynt hwy ymddeol gosodwyd y
fferm ar lês am 10 mlynedd i Geraint a Janet Parry, pâr
ifanc a fagwyd yn Sir Benfro.
Da tew a defaid sydd ar y fferm ac nid ydynt yn godro.
Mae Geraint Parry yn ffermwr ifanc tua 35 oed, yn fab ffarm wedi treulio cyfnod
mewn coleg amaethyddol a chan fod ganddo frawd oedd eisioes yn gweithio adref
ar y fferm, nid oedd cyfle iddo ef aros adref i ffermio gyda’i dad, felly
achubodd ar y cyfle i gael Pantypistyll ar lês. Dechreuodd ei gyfnod yn
ffermio ar ei liwt ei hun ar adeg anodd iawn yn y byd amaeth, ac mae pethau’n
dal yn anodd iddynt wrth iddynt fagu dau o blant.
Mae Janet Parry wedi gorfod parhau i weithio mewn banc yn Nhrefelin yn ogystal â magu
eu dau blentyn – Gwenno, sy’n chwech ac yn yr ysgol yn Bontlwyd – a
Gethin, sy’n ddwy a hanner, ac mewn meithrinfa/gyda gofalwraig tra fod
ei fam yn y gwaith. Nid yw hi’n hawdd i Janet fod mewn swydd llawn amser
yn ogystal â bod yn wraig ffarm a magu teulu, ond oherwydd yr amgylchiadau, ‘does
dim dewis. Mae hyn yn rhoi cryn straen ar eu perthynas ar adegau, ond mae Janet
yn gwneud ei gorau i fod yn gefnogol i Geraint.
|
|