| Mae Nansi’n tynnu at
ei hanner cant, a hi yw gweddw'r diweddar John Gwynfor (JG) a bu farw’n
sydyn blwyddyn a hanner nôl. Yn ara’ bach mae’n
dechrau ymdopi â’i sefyllfa. Mae’n dal i fyw ym
Mrynglas gyda'i merch Rhian. Ar ôl blynyddoedd o fod adre’n
magu’r plant, gwnaeth gwrs ysgrifenyddol yng ngholeg addysg
bellach. Bu’n ysgrifenyddes rhan amser i Irfon Williams am nifer
o flynyddoedd cyn mynd i weithio fel derbynydd mewn meddygfa yn Nhrefelin.
Nansi yw ffrind pennaf Martha Phillips – maent yn aml yn cwrdd
a’i gilydd dros gino yn y dre’. Nansi yw Trysorydd Merched
y Wawr Bontlwyd. Mae’n fenyw alluog, sydd wedi magu hyder ers
cael gyrfa. |
|