Bontlwyd blanc
pont Archifau Wythnos Diwethaf Actorion cefndir Hafan
Irfon Williams: Yn Ol
Ffarmwr a dyn busnes lleol ydyw Irfon. Ef yw Cadeirydd Pwyllgor Rhieni ac Athrawon yr ysgol gynradd yn Bontlwyd, mae’n aelod o’r Cyngor Bro hefyd. Ei waith o ddydd i ddydd yw gwerthu bwydydd anifeiliaid a gwrtaeth. Roedd e' hefyd yn gwneud gwaith contractio fel ffenso ac ati. Mae tipyn o ddrwg-deimliad rhwng Irfon a Tom Phillips, cyn gadeirydd Cop Bontlwyd. Dros y blynyddoedd mae Irfon wedi damsgen ar draed llawer o'r ardalwyr, bu’n dipyn o boendod i Arwyn ynglyn â'r Railway, a does dal ddim llawer o Gymraeg rhyngddo fe a Jac Roberts. Bu Nansi Brynglas yn ysgrifenyddes rhan -amser iddo, ac yr oedd JG yn gyrru lori iddo ac yn gwneud tipyn o waith contractio. Mae Geraint Parry, Pantypistyll wedi defnyddio tipyn o’i wasanaeth ac mae Irfon wedi rhoi tipyn o waith gyrru lori i Geraint yn ystod y blynyddoedd d’wetha, pan oedd argyfwng ariannol arnynt ym Mhantypistyll. Dyw pethe ddim wedi bod cystel i Irfon yn ddiweddar, ond mae'n fachan digon cefnog. Mae e wedi ypseto Wil Evans drwy gynnig arian bach am safle'r garej. Dyn a'i lygaid ar agor am gyfle i wneud ceiniog yw Irfon Williams.  
Darllediad diweddar Yr Actorion  

Mwy am :-

 
post
wal
tractor
llaeth

Tynici.com
©2004