Bontlwyd blanc
pont Archifau Wythnos Diwethaf Actorion cefndir Hafan
Helen Shipman: Yn Ol
Menyw tua 40 mlwydd oed yw Helen a hi sy’n perchen a rhedeg siop a swyddfa post Bontlwyd ers tua 7 mlynedd. Mae’n fam i 3 o blant, un crwt, William, a dwy groten. Mae’r plant i gyd yn yr ysgol uwchradd yn Nhrefelin erbyn hyn. Nid yw’n enedigol o’r ardal, a theimla weithiau ei bod hi a Keith, y gwr, yn ‘bobol dwad’. Mae ganddi dafod fel cyllell, barn ar bopeth a wastad yn barod i'w fynegi. Un fusneslyd a beirniadol tu hwnt ydyw.Mae hi wedi achosi drwgdeimlad rhyngddi hi a sawl un yn y pentre e.e. Tom Phillips, sydd bron byth yn mynd i’r siop bellach, a’r diweddaraf, Margaret Thorpe. Mae’n gyn aelod o bwyllgor Rhieni ac Athrawon yr ysgol gynradd. Dim gwaith hawdd yw ceisio rhedeg y siop a magu tri o blant, a ddioddefodd o iselder ysbryd eithaf gwael dwy flynedd yn ol, ac mae’n dal yn go fregus tu ol i'r wyneb caled. Bu Martha Phillips yn gefn iddi dros y cyfnod anodd yma fel rhan o’r Cynllun Cyfeillgarwch, ac mae Martha gyda’r ychydig sydd yn gydymdeimladol tuag ati.

 
Darllediad diweddar Yr Actorion  

Mwy am :-

 
post
wal
tractor
llaeth

Tynici.com
©2004