Gwr
yn agosau at ymddeol. Mae’n byw wrth ei hunan yn un o dai gyngor
y pentre. Nid yw’n gyrru, a cherdda o gwmpas y pentre’n
aml – sy’n golygu ei fod yn gweld tipyn o bopeth sy’n
mynd ymlaen, ac wrth gwrdd â phobol yn clywed tipyn o bopeth
hefyd. Mae wrth ei fodd gyda gwbod beth sy’n mynd ‘mlaen
yn y pentre, ond mewn ffordd eitha di-niwed, yn wahanol iawn i Helen
Shipman – mae’r ddau wedi cael sawl gair croes. Ei ffrind
gorau yw Albert Lloyd-Jones. Mae Ernest yn dynnwr coes heb ei ail,
gydag Arwyn yn ei chael hi rhan fwya o’r amser. Tipyn o gymeriad
sy’n hoffi jôc a’i beint ydyw ond mae’n gallu
fod yn graff hefyd.Mae e wedi bod yn gefn i Arwyn ar sawl adeg dros
y blynydde. Gall fod yn fyrbwyll ar adegau, sy’n cael e mewn
i bob math o drwbwl e.e. busnes côr y pentre, gyda Rhian. Mae’n
hoff iawn o Ceri ac yn amddiffynnol iawn ohoni. Daw ymlaen yn dda
gyda Jac hefyd, y ddau yn achwyn a rhoi’r byd yn ei le yn aml.
|
|