Cartre Carwyn a Tracey
Griffiths, par ifanc yn eu 20au cynnar a’i
mab, Callum sydd tua blwydd a hanner. Maent yn rhentu’r lle
wrth Martha. Priodon nhw tua dwy flynedd yn ôl, pan oedd Tracey’n
disgwyl Callum. Mae tipyn o barch gyda Carwyn at Tom, gan iddo fod
yn was iddo ar y ffarm nes iddo ddechre busnes ei hunan fel Bugail
Bro. Tuedda droi at Tom am gyngor. Oherwydd yr argyfwng sydd wedi
bod ym myd amaeth dros y blynyddoedd d’wetha, does dim gymaint
o alw am wasanaeth Carwyn ac mae e wedi bod yn anodd ennill digon
i gynnal y teulu bach. Mae hyn wedi achosu tipyn o straen ar y berthynas.
Mae Carwyn yn ystyried prynnu offer ar gyfer contractio, sy’n
golygu benthyciad o’r banc, ond heb argyhoeddi Tracey taw dyma’r
ffordd ore ymlaen.
Nid yw Tracey, fel Carwyn yn enedigol o bentre Bontlwyd, ond mae hi
wedi ymgartrefu’n hapus yno. Cyn disgwyl Callum, bu Tracey’n
gweitho ar ‘check-out’ archfarchnad yn y dre, ond roedd
rhaid iddi rhoi’r gore i’r gwaith gan nad oeddent yn gallu
fforddio talu rhywun i warchod Callum. Mae Tracey’n ferch fywiog,
cymdeithasol iawn – yn gyfarwydd â thipyn o gwmni. Mae
ei pherthynas gyda Carwyn yn un sownd iawn, ond oherwydd ei natur
ymfflamychol, mae ‘na dipyn o gwmpo mas hefyd. Fe wnaeth y newid
sydyn yn ei bywyd – bod yn fam ifanc, ddi-brofiad, heb gar,
yn gaeth i’r ty, teulu a ffrindiau yn byw yn ardaloedd eraill – achosi
tipyn o iselder ysbryd iddi am gyfnod. Yn anffodus, achos natur ei
waith, nid oedd Carwyn yno llawer i helpu Tracey gyda’r cyfrifoldeb
o fagu Callum. Fe geisiodd Siwsan ei helpu, a hefyd Martha, heb llawer
o lwyddiant ar y cychwyn. Ond yn y pendraw fe gysylltodd Tracey gyda’r
cynllun Cymorth Cartref a dechreuodd pethe wella. Ceisiodd Tracey,
yn erbyn dymuniad Carwyn, fynd nôl i weithio yn yr archfarchnad
am gyfnod er mwyn ennill tipyn ar gyfer y Nadolig, ond profodd yn
ormod iddi.
Ffrind gorau Tracey yw Debs, sydd hefyd yn gweithio yn yr archfarchnad
ac yn byw yn y dre’. Mae’n ferch sengl, yn byw bywyd llawn,
ond dal mewn cysylltiad â Tracey, naill ar y ffôn yn aml,
neu galw heibio bob hyn a hyn.
|
|