| Bachgen 34 mlwydd
oed ydyw Arwyn sydd wedi gweithio yn y Cop ers gadael ysgol, ac mae’n
dechrau cyrraedd ei botensial wrth iddo ennill dyrchafiad yn y gwaith
yn Nadolig 2003. Mae'n un o hoelion wyth y pentref, yn gadeirydd pwyllgor
y Railway, ac yn barod i gymeryd ei ddyletswyddau o ddifrif. Boi dibenadwy.
Ef yw tad Llyr sef canlyniad i noson anghyfrifol gyda Meriel chwe
mlynedd yn ol. Mae mewn cysylltiad rheolaidd â Llyr, ond dyw
pethau ddim cweit r'un peth ers i Meriel ddechrau perthynas arall.
Mae Arwyn a Ceri wedi bod yn agos ers blynyddoedd, ond wedi dod at
ei gilydd yn ddiweddar. Cafodd y ddau tipyn o sioc i ddarganfod fod
Ceri'n disgwyl babi dechrau 2004.
|
|