Ffarmwr wedi ymddeol a brawd i’r ddiweddar William Lloyd-Jones,
cyn-rheolwr y Cop ydyw Albert ac wrth gwrs ffrind gore Ernest. Mae’r
ddau wedi mwynhau sawl wac fach ac antur gyda’i gilydd e.e.
Smithfield, Y Sioe Frenhinol, gemau rygbi (Paris). Mae’n Flaenor
ac yn drysorydd capel Tabor. Cyd-weithia’n agos iawn gyda Tom
ynglyn â sefyllfa’r capel. Mae’n gall ac yn bwyllog
rhan amla, ond wedi cael siom yn Winston ynglyn â’i ymyrraeth
ym musnes y Ty-Capel.
|
|