Bontlwyd blanc
pont Archifau Wythnos Diwethaf Actorion cefndir Hafan
Ael-y-bryn Yn Ol

Ty ar waelod lôn Pantypistyll a Chartre Ceri Edwards, merch Tom a Martha Phillips. Mae Ceri yn weddw ifanc yn ei 30au canol. Bu farw ei gwr, Brei tua saith mlynedd nôl ar ôl damwain ym Mhantypistyll. Mae Ceri yn rheolwraig y gangen lleol o’r Cop, ble mae ei chariad Arwyn Thorpe yn gweithio hefyd. Mae Ceri’n ferch alluog iawn, yn dda iawn yn ei swydd, yn dda iawn gyda pobol, onddoes dim llawer o hunan hyder ganddi yn ei gallu hi ei hunan. Ar ôl tipyn o anghydweld, yn enwedig tra roedd Ceri’n helpu Elfyn y Gelli, (hen ffrind ysgol iddi,)gyda system newydd gyfrifiadurol i’r ffarm, mae Arwyn wedi symud i fyw ati hi. Mae Ceri’n disgwyl babi ac adref ar hyn o bryd ar ei chyfnod mamolaeth. Mae Arwyn wedi cael ei benodi’n rheolwr dros dro, ac mae hyn wedi achosi tipyn o straen ar eu perthynas yn ddiweddar. Mae Ceri wedi bod dan straen am rhesymau eraill hefyd – ei pherthynas gyda Siwsan, mam Brei, yn bennaf, gan fod Siwsan yn gweld hi’n anodd i ddygymod â pherthynas Ceri ac Arwyn, a’r ffaith ei bod hi’n disgwyl babi Arwyn. Nid yw’r perthynas rhwng Ceri a Margaret Thorpe, mam Arwyn yn rhwydd iawn chwaith, gan fod Margaret ychydig rhy rhwydd i feirniadu ac i fusnesa. Cafodd pawb tipyn o fraw yn ddiweddar oherwydd y damwain car cafodd Ceri ar lôn Pantypistyll tra’r oedd hi’n neud cymwynas â Janet Parry, ei ffrind gore hi. Gan bod y babi fod cyrraedd ym mis Ionawr, mae pawb yn ffysan tipyn o gwmpas Ceri ar hyn o bryd. Mae Ceri’n anfodlon iawn ar hyn ac yn ddiamynedd iawn – yn enwedig gydag Arwyn.

Mae Arwyn yn un o feibion Stifyn a Margaret Thorpe. Mae e wedi gweithio yn y Cop ers gadael ysgol, rhan fwyaf o’r amser yn gweini tu ôl y cownter. Mae digon yn ei ben ac mae’n dda iawn gyda’r dechnoleg newydd.Mae e wedi bod ar sawl cwrs yn ystod ei amser yno, ond rhywffordd neu gilydd dyw e ddim wedi symud ymlaen i wella ei hunan. Mae’n dryw iawn i’w ffrindie ac i’w gyd-weithwyr. Arwyn wnath sbarduno’r pentre i brynnu’r dafarn leol, Y Railway, sawl blwyddyn yn ôl – yn cymryd y cyfrifoldeb fel cadeirydd yr ymdrech ac yn llywio’r cyfan mewn i fodolaeth. Mae e a Ceri wedi bod yn ffrindie ers blynyddoedd maith, gan mai fe o’dd ffrind gore Brei. Buo Arwyn mewn perthynas gyda Meriel, ffrind gore Ceri ar y pryd ac mae’n dad i Llyr, plentyn Meriel. Dim ond tua blwyddyn yn ôl sylweddolodd e a Ceri eu bod yn mwy na ffrindie pellach. Nid yw’r berthynas wedi bod yn rhwydd iawn, yn bennaf oherwydd eu bod yn gweithio yn yr un man a bod Ceri’n fos arno. Fe driodd ffindo swydd rhywle arall ond heb lwyddiant. Mae e wrth ei fodd bod prif-swyddfa’r Cop yn Nhrefelin wedi ei benodi yn rheolwr dros-dro, a methu deall pam nad yw Ceri mor frwdfrydig ag e am y penodiad.

 
Darllediad diweddar Yr Actorion  

Mwy am :-

 
post
wal
tractor
llaeth

Tynici.com
©2004