| Melinda Williams yw Swyddog Gweinyddol Theatr Felin-fach,
mae Melinda yn gyfrifol am ddanfon a derbyn y sgriptiau ar e-bost
bob wythnos, eu teipio a’u tacluso cyn eu e-bostio i Euros sy’n
eu golygu eto a’u danfon yn ôl at Melinda! Mae Melinda
yn fam i dri o blant, yn briod a Dylan. Mae ganddi lwyth o ddiddordebau
yn cynnwys canu’r piano, darllen, garddio a beiciau modur! |
|