| Jennifer Thomas, Ystrad Aeron. Hunan-gyflogedig (ymchwil,
prosiectau). Mae’n briod a Lynford, a chanddynt 3 o blant, tair
wyres ac un wyr. Diddordebau Jen yw darllen (popeth ond cowbois a
romances!), sgrifennu sgriptie/dramau, a garddio. Mae wedi bod yn
aelod o Bontlwyd ers y cychwyn gynta' - wedi cydlynu, golygu sgriptie,
plotio a sgripto (y cyfan ar un pryd am ychydig o flynydde), nawr
yn plotio,sgripto, cydlynu'r sgriptwyr, ac yn gyfrifol am y crynodebau
ar gyfer Dysgwyr.Hefyd yn fath o stordy hanes y gyfres. |
|