| Janice Thomas sy’n chwarae rhan Debs. Mae Janice
yn gweithio fel Rheolydd Gwasanaethau Ymwelwyr i’r Ymddiriedolaeth
Genedlaethol, Llannerch Aeron. Mae’n briod ag Iwan sy’n
bensaer, a chanddynt dri o fechgyn, Gwern, Owain a Bleddyn. Mae’n
casglu llyfrau coginio, a phan byddo amser ganddi, mae’n coginio
hefyd! Mae’n hoff iawn o wylio rygbi, darllen a chymdeithasu! |
|