| Mae Gwyneth Davies yn briod a Ronnie, ac yn byw yn
Nhalgarreg gyda'r cwn, y ffowls a diadell o ddefaid Lleyn. Wedi gweithio
ym maes addysg a gofal y blynyddoedd cynnar ers nifer helaeth o flynyddoedd.
Ei hoff bethau yw darllen, garddio, gosod blodau, bwyta, gwylio ffilmiau,
wyna pan fydd pethe'n mynd yn iawn. Cas bethau: glanhau'r ty, rhaglenni
teledu 'reality', galwadau ffon di-ddiwedd amser swper, wyna pan fydd
popeth yn mynd o'i le. Mae Gwyneth wedi ploto a sgripto Bontlwyd ers
1995 ac wedi actio rhannau man cymeriadau pan fo panic. |
|