| Eifion Davies sy’n chwarae rhan Winston
a hynny bron ers y dechrau. Ar ôl hyfforddi yng ngholeg y Drindod
, Caerfyrddin cafodd swydd fel athro ail-iaith yn Ystrad Mynach. Dychwelodd
yn athro i’r Dolau(Highmead) lle bu yn ddirprwy am gyfnod hir.
Yn ol ei briod Yvonne, “yn aml iawn, nid oes llawer o wahaniaeth
rhwng Eifion a Winston!, .” Mae ganddynt dri o blant ac un wyres.
Triga’r ddau yn Drefach. Mae Eifion yn flaenor ym Mrynteg ac
yn weithgar iawn gyda’r papur bro Clonc, Clwb Ffermwyr Ifanc
Llanwenog a gwahanol weithgareddau o fewn y Gymuned. |
|