| Strab yw cymeriad Ernest a strab yw Aeron
Davies sy’n chwarae rhan Ernest ers sefydlu Bontlwyd ym 1993.
Mae Aeron hefyd yn gyn-aelod o’r cwmni drama gwreiddiol lleol,
Cwmni Tyngwndwn ac yntau wedi cyfrannu at gant a mil o gynhyrchiadau
amrywiol ac yn llawn atgofion o brofiadau cofiadwy a throeon trwstan
ar lwyfan. Cynllunydd adeiladu ydyw Aeron wrth ei alwedigaeth, mae’n
aelod o gôr Cwmann, yn fowliwr ac yn fardd. |
|