top tudalen blanc
pont
yn ôl
CyffredinolCroeso i Bontlwyd! [Cyffredinol] 18/05/2004 @ 00:04 ( 0)

BONTLWYD – Pwy? Beth? Ble? Pryd?

SEFYDLWYD – 1983, â chefnogaeth Menter a Busnes a Chyngor Sir Dyfed

BLE MAE E? – Pentre dychmygol yng ngorllewin Cymru....rywle rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth

PWY SY’N GWRANDO?

Gwrandawyr Radio Ceredigion – hyd at 150,000 oriau brig – sir Gaerfyrddin, gogledd Sir Benfro a Cheredigion (a gyda’r arfordir hyd at Ben-Llyn)

PWY YW’R ACTORION / SGWENWYR ETC. – Bobol leol, bobol cefn gwlad ardaloedd y gorllewin, yw’r actorion a’r sgwenwyr. Dan arweiniad proffesiynol staff Addysg Anffurfiol Theatr Felin-fach mae criw Bontlwyd yn cynhyrchu 5 pennod yr wythnos x 30 wythnos y flwyddyn.

SIWT MAE BONTLWYD YN WAHANOL I’R ARCHERS – Mae’n wahanol achos (i) ffermwyr a’u teuluoedd a’u cydnabod yw sgwenwyr ac actorion y gyfres, felly (ii) mae’r probleme a’r rhwystredigaethau, y dagrau a’r chwerthin, yn dod yn uniongyrchol oddi wrth y bobol sy’n wynebu’r probleme a’r rhwystredigaethau a’r dathliadau

BETH YW PWRPAS BONTLWYD TE – PREGETHU? – Na. Mae Bontlwyd yn wahanol i’r Archers yn hynny o beth hefyd. Oherwydd mai o ganol bywyd go iawn y daw straeon Bontlwyd rhannu profiadau yw’r nod, nid paso negeseuon lawr.

MAE E’N LLAWN PETHE DIFLAS TE? – Nagyw. Mae e’n sôn am y pethe diflas – y pethe anodd mae cymdeithas yn wynebu o ddydd i ddydd ond mae e’n canolbwyntio ar yr elfennau cadarnhaol – y ffordd mae cymdeithas cefn-gwlad yn mynnu ateb i broblem, yn hytrach na derbyn fod y cyfan ar ben.

O ran hyn o beth mae Bontlwyd yn debyg i nifer o operau sebon radio a gynhyrchir yn y trydydd byd – er mwyn rhannu profiadau cadarnhaol ac annog y gymdogaeth frodorol i symud y drafodaeth ymlaen, yn hytrach na derbyn y status quo.

MAE BONTLWYD YN UNIGRYW FELLY? – Odi, le mae drama radio yng ngwledydd Prydain yn y cwestiwn. Mae’r gyfres yn hollol unigryw. Yn y gorffennol – â chefnogaeth cynlluniau Erwopeaidd fel Leader II mae ymwelwyr o orsafoedd radio ac o raglenni Datblygu Cymdeithasol yn Sbaen, yr Eidal a Iwerddon wedi ymweld â Dyffryn Aeron er mwyn dysgu oddi wrth fethodoleg Bontlwyd.

OS YW BONTLWYD YN CYFRANNU AT DDATBLYGU CYMUNEDOL PWY YW’R ARBENIGWYR TE? – Mae dau set o arbenigwyr yn sicrhau dilysrwydd y gyfres fel cyfrwng Datblygu Economaidd. Un yw yr arbenigwyr proffesiynol, pobol fel Don Thomas (Menter Cig ac Oen Cymru); Hywel Evans, Menter a Busnes, gynt; Iestyn Pritchard, Cwysi; Vernon Edwards, Cymdeithas Gydweithredol Clynderwen a’r Cylch, ac yn y blaen. Y set arall o arbenigwyr yw’r criw cynhyrchu ei hunan – sef ffermwyr, eu teuluoedd a’u cydnabod o bob rhan o Geredigion wledig – y bobol hynny sy’n sgwennu yn sgîl eu profiadau dyddiol eu hunain.

BETH SYDD MOR SBESIAL AM ELENI TE? – Ar wahan i benblwydd y gyfres (10 mlynedd o ddarlledu – er mai 3 mis o arbrawf roedd e i fod yn y lle cyntaf) ym mis Chwefror mi fydd Bontlwyd ar gael ar gyfer cynulleidfa ar draws y byd.

SIWT Y’CH CHI’N NEUD HYNNY? – Trwy gyfrwng y we. O 21 Mai 2004, ymlaen mi fydd hi’n bosib i gynulleidfaoedd cefn gwlad ar draws Cymru, yn ogystal a’r sawl sydd dramor, i diwno mewn i Bontlwyd yn ddyddiol, neu yn wythnosol. Ar y safle mi fydd hi’n bosib i’r gynulleidfa newydd glywed y penodau cyfredol yn ogystal a phigion deg mlynedd o ddarlledu. Mi fydd y safle hefyd yn cynnwys map o’r ardal a nodiadau cefndirol am y cymeriadau a’r pentre – gan gynnwys copi o’r Arad, papur bro ardal Bontlwyd.

AM WYBOD RHAGOR? – Cysylltwch â Dwynwen Lloyd Raggett (Pennaeth Theatr Felin-fach – 01570 470697, dwynwenlr@ceredigion.gov.uk)
neu Euros Lewis (Golygydd y gyfres – 01570 471328 euros@yffwrwm.com



post
wal
tractor
llaeth